- Rhaid rhentu pob telyn werin am gyfnod o dri mis o leiaf.
- Mae’r ernes a thaliad rhent y mis cyntaf yn daladwy
drwy siec ar ddyddiad y cytundeb.
- Telir taliadau rhent wedi hynny yn fisol drwy Orchymyn Banc.
- Ad-delir yr ernes ar ddiwedd y cyfnod llogi, ar yr amod fod
y delyn yn cael ei dychwelyd yn yr un cyflwr â phan dderbyniwyd
hi.
- Yn ystod y cyfnod rhentu, cynigir cyfran o’r taliadau rhent fel
credyd pe baech yn penderfynu prynu unrhyw un o’n telynau gwerin
(cyfwerth â neu o fwy o werth na’r delyn sy’n
cael ei llogi). Patrwn y credyd hwn fydd:
Wedi llogi am dri mis - Ad-dalu’r symiau rhent
a dalwyd yn llawn
Wedi llogi am chwe mis - Dau-draean o’r symiau
rhent a dalwyd
Wedi llogi am ddeuddeg mis - Traean o’r
symiau rhent a dalwyd a phob deuddeg mis wedi hynny
- Y llogydd sy’n gyfrifol, ar ei draul/thraul ei hun,
am osod tannau newydd yn lle rhai sydd wedi treulio neu dorri,
sef tannau Camac yn unig, ar gael gan Telynau Vining Cyf.
- Mae’r llogydd yn gyfrifol am yswirio’r offeryn
yn erbyn colled neu niwed.
- Os bydd angen trawsgludo’r delyn i chi, codir tâl
ychwanegol, yn daladwy o flaen llaw.
Prisiau’n
cynnwys TAW ar y gyfradd gyfredol o 20% |