Yr laith GymraegHeather Downie
Tudalen Cyswllt
Heather Downie

Mae Heather yn chwarae telyn acwstig Aziliz Camac gyda tannau carbon a telyn drydanol 36 tant Camac.

Mae Heather wedi hoffi cerddoriaeth Albanaidd erioed, ac mae wedi bod yn canu ers cyn hir a fedrith hi gofio. Fe dyfodd ei diddordeb tra'n gweithio efo'r ddiweddar Martyn Bennett, ar ôl hynny penderfynodd mai gyrfa yng ngherddoriaeth traddodiadol oedd ei nod.
 
Yn 15 mlwydd oed fe ddechreuodd chwarae'r delyn werin a chafodd ei derbyn yn syth gan Splore, y cwrs cerddoriaeth traddodiadol yn Ngwyl Rhyngwladol Ieuenctid Aberdeen. Ar ôl graddio o Academi Brenhinol Cerdd a Drama yr Alban gyda gradd dosbarth gyntaf BA Anrhydedd yng ngherddoriaeth Albanaidd, aeth Heather ymlaen i gwblhau diploma ôl-raddol ym mherfformiad cerddoriaeth Albanaidd.
 
Mae Heather wedi trafaelio yn eang yn yr Alban ac mae ei cherddoriaeth wedi mynd a hi mor bell i ffwrdd a'r Almaen, Denmark, Latvia ac Efrog Newydd. Mae gan Heather diddordeb hefyd mewn cyfansoddi a hanes Albanaidd, llên gwerin a gwreiddiau y caneuon a'r tonau yn ei repertoire ac mae'n mwynhau dysgu mewn grwpïau mawr ac wythnosau breswyl fel Ysgol Haf Tinto, yn ogystal a myfyrwyr preifat.
 
Mae chwarae Heather wedi cael ei ddisgrifio yn 'ddirgrynol a meddylgar yn ei ddehongliad o alawon traddodiadol safonol' ac mae cynulleidfaoedd wedi gwneud sylw am purder ei llais.
 
'Mae ei chwarae a'i chanu yn uno gyda'i gilydd i greu profiad hudol i'r gwrandäwr'.
 
'...fe agorest di rhan dwfna a mwya emosiynol y gerddoriaeth. Yn ddi-fai'.

 

www.heatherdownie.co.uk

Cliciwch ar logo Telynau Vining i fynd nôl i'r tudalen gartref
© 2007 Telynau Vining Harps