Mae Deborah Henson-Conant yn chwarae y Delyn lifer drydanol
BabyBlue Camac a’r telyn pedal trydanol/acwstig ‘Blue’ Camac.
Mae Deborah Henson-Conant yn artist, sydd wedi ei noddi am Grammy,
sy’n canu a chwarae’r delyn, dweud storïau a cyfansoddi
cerddoriaeth symffonig.
Fe astudiodd y delyn classurol i ddechrau cyn datblygu ei fersiwn
hi ei hun o Swing a jazz Lladin cyn ymuno’r tri yn un i greu
ffordd newydd o berfformio cerddoriaeth. Mae ei sioeau yn cymysgu
jazz, gwerin a flamenco gyda adroddiad theatrig a hiwmor.
Yn 1998 perswadiodd Joel Garnier, sylfaenydd Telynau Camac, i greu
offeryn iddi y byddai yn gallu strapio i’w chorff. Mae’r
delyn drydanol las gyda enaid gitar trydanol nawr yn offeryn sy’n
gysylltiedig â hi. Gyda pob tant yn drydanol, mae’r “Body
Harp” yn galluogi hi i chwarae dros yr adran bres mewn cerddorfa
neu i chwarae darn unawd ysgafn. Fe ddaeth y delyn yma yn delyn trydanol
lifer BabyBlue Camac sydd dal yn rhan bwysig o amrediad Camac heddiw.
Mae Deborah wedi teithio’n helaeth yn cynnwys fel unawdydd
gwadd gyda’r Boston Pops a mae hi wedi recordio mwy na dwsin
o recordiadau. |