| Y Delyn |
|
Harps |
| Y Delyn – y mwyaf
traddodiadol o blith yr holl offerynnau cerddorol – ac un o’r
harddaf hefyd, i’r llygad yn ogystal ag i’r glust. Beth
bynnag y byddwch am ei chwarae, alawon gwerin traddodiadol, cerddoriaeth
glasurol, pop neu jazz modern, bydd y delyn yn eich helpu i’ch
mynegi’ch hun a rhoi pleser di-ben-draw i chi. |
|
Harps - the
most traditional of musical instruments - are also one of the most
beautiful, to the eye as well as the ear. Whether you wish to play
traditional folk melodies, classical music, pop or modern jazz, the
harp will help you express yourself and give you endless pleasure. |
| Telynau Vining |
|
Vining Harps |
Telynau
Vining Harps – prif
ddosbarthwyr telynau Camac yn y DU ac Iwerddon – busnes teuluol
a redir gan Elen Vining BMus(Anrh). A hithau’n delynores ei hun,
mae Elen yn deall anghenion telynorion ac mae mewn safle delfrydol
i gynghori ar ddewis telyn addas ar eich cyfer chi neu’ch plentyn.
Ynghyd â thelynau i’w prynu neu rentu, mae’r cwmni’n
cadw stoc eang o offer telyn, yn cynnwys tannau, gorchuddion, trolïau,
stolion, cerddoriaeth a CDiau. Yn ogystal â chynnig dewis llawn
o holl delynau Camac, rydym yn rhedeg cynllun cymhelliant rhentu telyn
ar gyfer oedolion a dysgwyr iau, dosbarthiadau ensemble ar gyfer dysgwyr
ifanc (a rhai ifanc eu hanian!) a gallwn argymell athrawon telyn ledled
y DU. Mae’n busnes arall – Cerdd
Rowlands Music –yn
darparu cerddoriaeth ar gyfer pob offeryn a llais, llyfrau ynglŷn â cherddoriaeth
a cherddorion, ac offer a rhoddion cerddorol. O’n siop yn un
o arcediau hanesyddol Caerdydd, rydym yn darparu gwasanaeth cyfeillgar
a gwybodus ar gyfer telynorion a cherddorion eraill, ac yn rhedeg gwasanaeth
archebu drwy’r post effeithlon ar gyfer cerddoriaeth, tannau
a mathau eraill o offer cerddorol. |
|
Telynau
Vining Harps - the leading distributor of Camac
harps in
the UK and Ireland - is a family- owned business, run by Elen
Vining BMus(Hons). Being a harpist herself, Elen understands
the needs of harpists and is well placed to advise on the choice
and suitability of harp for you or your child. In addition to
harps for sale and rent, the company stocks a wide range of harp
accessories, including strings, covers, trolleys, stools, music
and CDs. As well as supplying the full range of Camac harps,
we run an incentive harp rental scheme for adult and younger
learners, ensemble classes for young learners (and the young
at heart!) and can recommend harp teachers throughout the UK.
Through our other business - Cerdd
Rowlands Music - we supply
music for all instruments and voices, books about music and musicians,
music accessories and novelties. From our shop in one of Cardiff's
historic arcades, we provide a friendly and knowledgeable service
to harpists and other musicians, and operate an efficient mail
order service for music, strings and other accessories. |
| Elen
Vining |
|
Elen Vining |
Elen Vining
BMus(Anrhydedd) - Cafodd
Elen, a aned yng Nghymru, ei haddysg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
a Phrifysgol Caerdydd, lle enillodd Radd ag Anrhydedd mewn Cerddoriaeth.
Dechreuodd ddysgu’r delyn yn yr ysgol gynradd. Yn ddiweddarach,
astudiodd gyda Valerie Aldrich-Smith, Prif Delynor Cerddorfa Genedlaethol
Cymru y BBC, gan ennill cynhwyster Gradd 8 gydag Chlod yn arholiadau
Bwrdd Cysylltiedig yr Ysgolion Cerdd Brenhinol. Ar ôl graddio,
bu Elen yn gweithio i gwmni gwerthu telynau adnabyddus yn Lloegr
cyn dychwelyd i Gymru i sefydlu ei busnes ei hun yn dosbarthu telynau
Camac. Yn 2003 fe prynodd Cerdd Rowlands, siop gerddoriaeth cyffredinol
a oedd wedi bod yng Nghanol Caerdydd am bron 100 mlynedd. Yn Awst
2003 fe ymunodd Elen y ddau busnes mewn un siop fawr yn Arcêd
Heol Fawr yng Nghaerdydd.
|
|
Elen Vining BMus(Hons) -
Born in Wales, Elen was educated at Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf and
at Cardiff University, where she obtained an Honours Degree in Music.
She started learning the harp whilst at primary school with Sian
Thomas. Later she studied under Valerie Aldrich-Smith, Principal
Harpist of the BBC National Orchestra of Wales, qualifying at Grade
8 with Distinction in the examinations of the Associated Board of
The Royal Schools of Music. After graduating, Elen worked for a well
known harp retailer in England before returning to Wales in 1999
to establish her own business as distributor of Camac harps. In 2003
she purchased Rowlands Music, a general sheet music shop which had
been in the centre of Cardiff for nearly 100 years. In August 2003
she joined the two business’s together opening a large shop
in the High Street Arcade in Cardiff. |
| Telynau
Camac |
|
Camac
Harps |
Camac – un
o gwmnïau gwneud telynau blaenllaw’r byd, sy’n adnabyddus
am ei ymchwil fanwl, technolegau arloesol, safonau uchel o ddylunio
a chrefftwaith, a’i sylw i fanylion. Mae Camac yn cynhyrchu
amrywiaeth o delynau pedal, lifer a thrydanol o’r radd flaenaf,
sy’n addas i delynorion proffesiynol ac amatur yn ogystal â phlant
a dysgwyr lefel-uwch. Mae telynau brig-y-farchnad Camac yn cael eu
defnyddio gan delynorion o fri ym mhedwar ban y byd a cherddorfeydd
byd-enwog. Ar ben arall y sbectrwm, mae Camac yn cynhyrchu telynau
gwerin (lifer) a phedal deniadol a rhesymol eu pris, sy’n addas
ar gyfer pob oed a phob lefel o allu. Mae Camac yn cyfuno elfennau
gorau traddodiad a thechnoleg fodern i gynhyrchu telynau dibynadwy
a fforddadwy sydd heb angen llawer o gynnal a chadw, ac a fydd yn
parhau i fod yn gaffaeliad am flynyddoedd. |
|
Camac - one of the world's
foremost harp makers - is renowned for its detailed research, innovative
technologies, high standards of design and workmanship and attention
to detail. Camac produces a range of high quality pedal, lever and
electric harps, suitable for professional and amateur harpists as well
as for children and more advanced learners. Camac's top-of-the-range
harps are played by distinguished harpists throughout the world and
are featured in internationally famous orchestras. At the other end
of the scale, Camac produces attractive and affordable folk (lever)
and pedal harps, appropriate for all ages and skill levels. Camac combines
the best of tradition and modern technology to produce reliable, affordable
harps that require only limited maintenance and will remain an asset
for years to come.
Photograph: Jakez François |